2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym maes marchnata bwyd, labelu bwyd, dosbarthiad bwyd a mesurau cysylltiedig eraill.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau at offerynnau penodol yr UE yn Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

bwyd, cymru

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A([3]) o Atodlen 2 iddi, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([4]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([5]).

Yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([6]) a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r rheoliad hwn a rheoliad 5, i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 5 i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle ““rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”)” rhodder ““rheolau marchnata” (“marketing rules”)”.

(3) Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “rheolau marchnata’r UE” rhodder “rheolau marchnata”—

(a)     rheoliad 2(2), yn y diffiniad o “cynnyrch garddwriaethol”;

(b)     rheoliad 3(2);

(c)     rheoliad 4, paragraffau (4)(a), (5), (6), (7)(a) (yn y ddau le y mae’n digwydd), (7)(c) ac (8);

(d)     rheoliad 8, paragraffau (1)(dd) a (2);

(e)     rheoliad 9(1);

(f)      rheoliad 10, paragraffau (1), (3) a (4);

(g)     rheoliad 11(1), is-baragraffau (a), (b), (c) ac (ch);

(h)     rheoliad 12(2)(d);

(i)       rheoliad 14, paragraffau (3)(a) a (5)(a)(ii);

(j)       rheoliad 16(1)(c) (yn y ddau le y mae’n digwydd).

(4) Yn rheoliad 3(2), yn lle “a’r Alban neu i’r Comisiwn
Ewropeaidd” rhodder “neu’r Alban”.

(5) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (8), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(b)     daw pennawd yr adran yn “Tramgwyddau rheolau marchnata”.

(6) Yn rheoliad 7(3)(a), hepgorer paragraff (ii).

(7) Yn yr Atodlen, yn lle “Aelod-wladwriaethau” rhodder “yr awdurdodau perthnasol”.

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3(1)—

(a)     ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008”, mewnosoder—

“ystyr “y rheoliadau lles anifeiliaid” (“the animal welfare regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007([9]).”

(b)     hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC”;

(c)     hepgorer y diffiniad o “rhanbarth”;

(d)     yn lle’r diffiniad o “rhanbarth cynhyrchu”, rhodder—

“ystyr “rhanbarth cynhyrchu” (“region of production”), mewn perthynas ag wyau a gynhyrchir ar safle cynhyrchu yng Nghymru, ac a farchnetir gan y cynhyrchydd yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol drwy eu gwerthu o ddrws i ddrws neu mewn marchnad gyhoeddus leol, yw—

(a)   yr ardal o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; a

(b)   unrhyw ran o Gymru sydd y tu allan i’r radiws hwnnw o 80 cilometr;”;

(3) Yn lle rheoliad 13(3) rhodder—

“(3) Yr amodau yw’r amodau yn y darpariaethau a ganlyn yn Atodlen 2 i’r rheoliadau lles anifeiliaid—

(a)   paragraff 2(ch) (ond nid y gofyniad nad yw clwydi i fod ag ymylon miniog a’u bod yn darparu 15cm o leiaf i bob iâr);

(b)   paragraff 2(d);

(c)   paragraff 5;

(d)   paragraff 6(a);

(e)   paragraff 7(a).”.

(4) Yn lle rheoliad 14(3) rhodder—

“(3) Yr amodau yw’r amodau yn y darpariaethau a ganlyn yn Atodlen 2 i’r rheoliadau lles anifeiliaid—

(a)   paragraff 2(ch) (ond nid y gofyniad nad yw clwydi i fod ag ymylon miniog a’u bod yn darparu 15cm o leiaf i bob iâr);

(b)   paragraff 2(d);

(c)   paragraff 5;

(d)   paragraff 6(a);

(e)   paragraff 7(a).”.

(5) Yn rheoliad 19—

(a)     yn lle paragraff (2) rhodder—

“(2) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol gydag ef.”;

(b)     hepgorer paragraff (14).

(6) Yn Atodlen 2, yn Rhan 2, yn y tabl—

(a)     yng ngholofn 2, yn lle’r 21ain cofnod (sef y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod ar gyfer “Erthygl 9(1)” yng ngholofn 1) rhodder—

“Rheoliad 4 o Reoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004([10])”;

(b)     yng ngholofn 2, yn y 26ain cofnod (sef y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod ar gyfer “Erthygl 12(2), y pedwerydd is-baragraff” yng ngholofn 1), yn lle “a Phennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC” rhodder “ac Atodlen 4 i’r rheoliadau lles anifeiliaid”.

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

4.(1)(1) Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011([11]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn lle “neddfwriaeth yr UE” rhodder “neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”;

                          (ii)    yn is-baragraff (a)(vi), ar ôl “drydydd gwledydd)” mewnosoder “, fel y’i darllenir gydag Erthygl 15za (darpariaethau trosiannol)”;

                        (iii)    yn is-baragraff (b)(ii), ar ôl “(labelu)” mewnosoder “(ond gweler paragraff (4))”;

                        (iv)    hepgorer is-baragraff (b)(viii);

(b)     ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

“(4) Nid yw person yn cyflawni tramgwydd o dan baragraff (1)(b)(ii) mewn perthynas â chig a osodir ar y farchnad ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020, os yw’r person—

(a)   wedi methu â chydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000, ond

(b)   wedi cydymffurfio â’r Erthygl honno fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.”;

(c)     daw’r pennawd yn “Tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.

(3) Yn rheoliad 6(2), hepgorer “, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd”.

Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

5.(1)(1) Mae Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011([12]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     yn lle’r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn”, rhodder—

“ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”  (“Commission Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/1185 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EU) Rhif 1307/2013 ac (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran hysbysiadau i’r Comisiwn am wybodaeth a dogfennau a diwygio a diddymu nifer o Reoliadau’r Comisiwn([13]), ac ystyr unrhyw gyfeiriad at Atodiad I, Atodiad II ac Atodiad III i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn yw Atodiad I, Atodiad II ac Atodiad III i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”;

(b)     yn y diffiniad o “cynhyrchion llaeth”, yn lle’r geiriau “yn Erthygl 2(3)(a) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiadau 1.A ac 1.B iddo” rhodder “ym Mhwynt 7 o Atodiad I, Pwynt 4 o Atodiad II a Phwynt 9 o Atodiad III i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn”.

(3) Yn rheoliad 3(1), yn lle “Erthyglau 2 a 3 o Reoliad y Comisiwn” rhodder “Erthyglau 7, 11 a 12 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn”.

6.(1)(1) Mae Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011, fel y’i diwygiwyd gan reoliad 5, wedi eu diwygio ymhellach ar y diwrnod ymadael fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “cynhyrchion llaeth” rhodder—

“ystyr “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw powdr maidd, powdr llaeth sgim, powdr llaeth cyflawn, menyn, cawsiau (gan gynnwys cawsiau diwydiannol) a llaeth amrwd.”.

(3) Yn rheoliad 3(1), hepgorer “at ddibenion Erthyglau 7, 11 a 12 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn”.

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

7.(1)(1) Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011([14]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) yn lle ““darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”)” rhodder ““darpariaeth cig dofednod yr UE a ddargedwir” (“retained EU poultrymeat provision”).

(3) Yn rheoliad 9(1) a (2)(a), yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”.

(4) Yn rheoliad 11(2), hepgorer is-baragraff (b) a’r “a” sy’n ei ragflaenu yn union.

(5) Yn rheoliad 12—

(a)     ym mharagraff (9)(a), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.

(b)     hepgorer paragraff (12).

(6) Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”.

(7) Daw pennawd newydd Atodlen 1 yn “DARPARIAETHAU CIG DOFEDNOD YR UE A DDARGEDWIR, Y GALL EU TORRI ARWAIN AT DDYRODDI HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO”.

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017

8.(1)(1) Mae Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017([15]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     cyn y diffiniad o “cymorth gwladol”, mewnosoder

ystyr “cymorth” (“aid”) yw cymorth a roddir yn unol ag Erthygl 23(1) o Reoliad y Cyngor ac yn unol â Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (ond gweler rheoliad 59(A1));”;

(b)     yn y diffiniadau o “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn” a “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”, hepgorer y gair “Undeb”;

(c)     hepgorer y diffiniad o “cymorth gwladol”;

(d)     yn y diffiniad o “y costau gweddilliol”, hepgorer y geiriau “Undeb a chymorth gwladol”;

(e)     hepgorer y diffiniad o “cymorth Undeb”.

(3) Hepgorer rheoliad 3.

(4) Yn rheoliad 4—

(a)     yn lle “cymorth gwladol” rhodder “gwladol”;

(b)     daw’r pennawd yn “Cymorth ychwanegol i ddisgyblion cymwys”.

(5) Yn rheoliad 5—

(a)     cyn paragraff (1), mewnosoder—

“(A1) Yn y rheoliad hwn—

(a)    mae “cymorth” yn cynnwys—

(i) unrhyw gymorth a roddir cyn y diwrnod ymadael yn unol ag Erthygl 23(1) o Reoliad y Cyngor fel yr oedd yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw; a

(ii)  unrhyw gymorth a roddir gan Weinidogion Cymru cyn y diwrnod ymadael o dan reoliad 3 o’r rheoliadau hyn fel yr oedd yn cael effaith cyn y diwrnod hwnnw, a

(b)    mae “ceisydd” i’w ddehongli yn unol â hynny.”

(b)     Ym mharagraff (1)

                            (i)    hepgorer y geiriau “Undeb neu gymorth gwladol o dan reoliad 3”;

                          (ii)    yn lle “Undeb neu gymorth gwladol o’r fath o dan y rheoliad hwnnw” rhodder “o’r fath”;

                        (iii)    yn is-baragraff (a), yn lle “Undeb neu gymorth gwladol o’r fath yn ôl o dan reoliad 3” rhodded “o’r fath yn ôl”;

                        (iv)    yn is-baragraff (b), yn lle “Undeb neu gymorth gwladol o’r fath o dan reoliad 3” rhodder “o’r fath”.

(c)     Daw’r pennawd yn “Cadw cymorth yn ôl a’i adennill”.

(6) Yn rheoliad 7(7), hepgorer paragraff (a) a’r “a” yn union ar ei ôl.

(7) Hepgorer rheoliad 9.

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

9.(1)(1) Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018([16]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd);

(b)     yn lle ““darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”)” rhodder ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)”;

(c)     yn lle ““darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)”.

(3) Hepgorer rheoliad 7(2)(b).

(4) Hepgorer rheoliad 13(2)(b).

(5) Yn rheoliad 15, yn lle “â’r darpariaethau moch Ewropeaidd” rhodder “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir”.

(6) Yn rheoliad 26—

(a)     yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd);

(b)     daw’r pennawd yn “Troseddau: darpariaethau eidion yr UE a ddargedwir”.

(7) Yn rheoliad 27—

(a)     yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (ym mhob lle y mae’n digwydd);

(b)     daw’r pennawd yn “Troseddau: darpariaethau moch yr UE a ddargedwir”.

(8) Yn rheoliad 36(1), yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir” (yn y ddau le y mae’n digwydd).

(9) Yn Atodlen 1—

(a)     yn y pennawd i golofn 1 o’r tabl, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”;

(b)     yn y cofnod yn y pedwaredd rhes o golofn 3 o’r tabl, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(c)     daw’r pennawd yn “DARPARIAETHAU’R UE A DDARGEDWIR: CARCASAU BUCHOL”.

(10) Yn Atodlen 2—

(a)     yn y penawdau i golofn 1 o’r tablau yn rhannau 1 a 2, yn lle “Ewropeaidd” rhodder “yr UE a ddargedwir”;

(b)     yn y tabl yn rhan 1, yn y cofnod yn y drydedd rhes o golofn 3, yn lle “ddulliau a awdurdodir gan y Comisiwn” rhodder “ddulliau awdurdodedig”;

(c)     daw’r pennawd yn  “DARPARIAETHAU’R UE A DDARGEDWIR: CARCASAU MOCH”.

 

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,

un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           O.S. 2010/2690. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

([2])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([3])           Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

([4])           2018 p. 16.

([5])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, ac nid oes diwygiadau perthnasol i Erthygl 9.

([6])           2006 p. 32. Diwygiwyd adran 59(3) gan adran 20(2)(c) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).

([7])           O.S. 2009/1551 (Cy. 151), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1043, O.S. 2011/2486 (Cy. 270), O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2018/1216 (Cy. 249) ac y ceir diwygiadau eraill iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([8])           O.S. 2010/1671 (Cy. 158) y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([9])           O.S. 2007/3070 (Cy. 264), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/2713 (Cy. 229) ac O.S. [insert reference to The Animal Health and Welfare (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019].

([10])         O.S. 2004/1432 (Cy. 145), fel y’i diwygiwyd gan O.S. [insert reference to The Animal Health and Welfare (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019] ac y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([11])         O.S. 2011/991 (Cy. 145), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2018/1188 (Cy. 242).

([12])         O.S. 2011/1009. (Cy. 149).

([13])         OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 113.

([14])         O.S. 2011/1719 (Cy. 195) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320).

([15])         O.S. 2017/724 (Cy. 174).

([16])         O.S. 2018/1215 (Cy. 248).